SL(6)563 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018. Maent yn cynyddu’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ar neu ar ôl 11 Rhagfyr 2024.
Dangosir y cyfraddau treth diwygiedig yn y tabl canlynol:
|
Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
Band treth |
Y gydnabyddiaeth berthnasol |
Y gyfradd dreth flaenorol |
Y gyfradd dreth newydd |
|
Y band treth cyntaf |
Nid mwy na £180,000
|
4% |
5% |
|
Yr ail fand treth |
Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000
|
7.5% |
8.5% |
|
Y trydydd band treth |
Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000
|
9% |
10% |
|
Y pedwerydd band treth |
Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000
|
11.5% |
12.5% |
|
Y pumed band treth |
Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 |
14%
|
15% |
|
Y chweched band treth |
Mwy na £1,500,000 |
16%
|
17% |
|
|
|
|
|
Mae’r Rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol fel y bydd y cyfraddau treth blaenorol yn dal i fod yn gymwys pan gyflawnwyd contract yn sylweddol cyn 11 Rhagfyr 2024, neu pan ymrwymwyd i gontractau cyn y dyddiad hwnnw (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol).
Cafodd y Rheoliadau eu gwneud a’u gosod gerbron y Senedd ar 10 Rhagfyr 2024 a daethant i rym ar 11 Rhagfyr 2024.
Y weithdrefn
Gwneud cadarnhaol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.
Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ddarostyngedig i dreth trafodiadau tir a gesglir gan ACC.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Ni fu unrhyw ymgynghori mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Mae'r Memorandwm Esboniadol, ym mharagraff 5.1, yn dweud:
“Nid oes unrhyw ofyniad statudol i ymgynghori ar yr offeryn hwn. Cyhoeddwyd y newidiadau i’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 10 Rhagfyr 2024 yn y Gyllideb ddrafft. Mae’r newidiadau’n cyd-fynd â sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i lunio polisi treth gan fabwysiadu cyfundrefn flaengar a chymesur, yn ogystal â chynyddu refeniw TTT yn gyffredinol i ddarparu refeniw ychwanegol i ariannu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru. Nid yw gosod cyfraddau a throthwyon ar gyfer trethi yn faes polisi y cynhelir ymgyngoriadau ynddo fel arfer, gan fod unrhyw ymgynghoriad o’r fath ar dreth ‘fyw’ yn debygol iawn o effeithio ar ymddygiad ac, yn benodol mewn perthynas â threthi trafodiadau, ar amseriad y trafodiadau hynny.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
18 Rhagfyr 2024